
Llysiau and Ffrwythau Pandy
Hamper Cynhaeaf Fferm Pandy
Bydd Hamperi Cynhaeaf ar gael eto o ddiwedd Gwanwyn 2025.
Os ydych yn byw yn lleol ac eisiau archebu Hamper Cynhaeaf rheolaidd (neu achlysurol) o’r fferm anfonwch e-bost atom i ychwanegu eich enw at y rhestr bostio wythnosol neu cliciwch yma i dderbyn hysbysiadau WhatsApp.
Sut mae'n gweithio -
Ar brynhawn dydd Iau rydym yn anfon rhestr o'r hyn sydd yn yr hamper trwy e-bost a WhatsApp.
Gwnewch eich taliad erbyn y dydd Sul canlynol ac anfonnwch neges i gadarnhau eich archeb.
Mae'r llysiau i gyd yn cael eu casglu a'u pacio y dydd Llun canlynol ac yn barod i'w casglu unrhyw bryd ar ôl 3pm. Mae ein man gwaith ar agor tan fachlud haul.
Nid oes unrhyw rwymedigaeth i gofrestru ar gyfer hamper wythnosol - archebwch un pan fydd yn gyfleus.
Os oes unrhyw lysiau nad ydych chi'n eu bwyta, gallwn ni droi'r rheini allan am bethau ychwanegol - gofynnwch.
Rydym yn tyfu amrywiaeth o fwyd ar Fferm Pandy, o winwns a thatws, i sbigoglys a ffa. Yn yr haf rydym yn tyfu mefus, mafon, mwyar duon, yn ogystal â digonedd o lus. Mae’n holl gynnyrch yn cael ei dyfu'n naturiol (dim plaladdwyr, chwynladdwyr cemegol na gwrtaith cemegol).
Cynnyrch Ffres
Bydd ein siop fferm yn ailagor yn Haf 2024 gyda chynnyrch tymhorol wedi’i gynaeafu’n ddyddiol. Rydyn ni’n rhannu’r hyn sydd ar gael yn ein rhestr bostio Siop Fferm, felly cofrestrwch os oes gennych chi ddiddordeb.
Bwyd Wedi Rhewi
Beth am ein llus wedi'u rhewi - byrstio o flas yr haf yng nghanol y gaeaf!? Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o aeron wedi'u rhewi (dim ond ar gael yn ein siop). Mae toriadau organig o'n cig oen wedi rhewi ar gael yn y siop hefyd.
Wyau Organig
Mae gennym rai o'r wyau organig mwyaf blasus o gwmpas! Os ydych chi’n byw’n lleol, mae’n siŵr y byddwch chi’n adnabod ein hieir a’n ceiliog. Mae gennym wyau hwyaid blasus hefyd - gwych ar gyfer crempog a chacennau!

Ymweld â'n Siop
Bydd ein siop yn ail-agor yn haf 2024.
Prynwch yn Cosyn Cymru
Rydym yn gwerthu ein cynnyrch fferm yn Cosyn Cymru, ym Methesda. Fel arfer gwneir dosbarthiad ffres ar ddydd Mercher. Ymunwch â'n grŵp WhatsApp i gael diweddariadau.

Prynwch yn Dimensions Bangor
Rydym yn gwerthu ein cynnyrch yn y siop bwyd iâch Dimensions ym Mangor.