Cynhadwŷl Cynaliadwyedd

Gŵyl & Chynadledd

Dydd Gwener, Mawrth 14, 2025

11.00am tan 11.45pm

Nod y digwyddiad hwn yw ysbrydoli gweithgareddau cymunedol yn wyneb newid hinsawdd. Trwy gyflwyniadau, gweithdai, cerddoriaeth a dawns rydym yn gobeithio cryfhau gwydnwch cymunedol yn Nhregarth ac ardal Dyffryn Ogwen.

Beth sy'n digwydd …

Sgwrs & Phaneli

Byddem yn archwilio pynciau fel ein perthynas â thir, cydnerthedd cymunedol a grym mentrau cymunedol trwy gyflwyniadau a thrafodaethau panel. Bydd siaradwyr lleol a chenedlaethol yn rhannu straeon hynafol, ymchwil ddiddorol a gwybodaeth ysbrydoledig i helpu i greu sgwrs sy’n wirioneddol bwysig.

Gweithgareddau

Bydd gweithdai prynhawn yn bwynt cyswllt, gan roi cyfle i bobl fynegi eu creadigrwydd, cysylltu â’r tir ac archwilio’r fferm ar daith dywys. Rydym i gyd yn gyfranogwyr gweithredol yn ein hecosystem ac yn gyd-grewyr ein diwylliant. Felly gadewch i ni wneud y gwaith da gyda'n gilydd a chreu rhywbeth arbennig!

Cerdd & Dawns

Mae dawns yn ffordd bwerus o gysylltu â'n gilydd sy'n mynd y tu hwnt i rwystrau iaith ac yn ysbrydoli llif o egni. Yn ystod y noson bydd artistiaid lleol a ffrindiau o bob rhan o’r DU yn dod â’u creadigrwydd a’u cerddoriaeth i lenwi’r noson gyda dathlu a dawnsio. Mae’r rhan hon o’r ŵyl yn draddodiad parti lleuad llawn Fferm Pandy sy’n digwydd unwaith y mis.

Mae’n bossib bydd amseroedd yn newid

Tocynnau

*

Tocynnau *

  • O dan 16 - AM DDIM

  • Digyflog/Cyflog Isel/Myfyriwr - £5

  • Arferol - £10

  • Cefnogwr - £20

Cyflwynwyr

Bwyd ar Gael

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Flame and Grain a fydd yn cynnig eu bwydlen pizza blasus yn llawn cynhwysion lleol.

Bydd rhagor o opsiynau bwyd i ddilyn - gwyliwch y gofod hwn!

Cymrud Rhan

Gwirfoddolwch ar y diwrnod

Ydych chi'n angerddol am ymgysylltu â'r gymuned? Hoffech chi fod yn rhan o helpu ar y diwrnod? Rydym yn chwilio am dîm o wirfoddolwyr i ymuno â'r gweithgaredd a helpu i greu rhywbeth arbennig ar y fferm. Anfonwch e-bost atom i fynegi diddordeb a dweud ychydig amdanoch chi!

Pwy sy'n trefnu'r digwyddiad hon?

Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Alia Berry, arweinydd ifanc yn ein cymuned. Edrychwch ar y ddolen codi arian isod i gefnogi ei gwaith.

Mae’r digwyddiad yn rhan o'i phrosiect men ysgol flaengar, lle mae myfyrwyr yn dysgu trwy weithio ar brosiectau sydd o bwys.

Sut i gyrraedd:

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:

Aliarose2327@gmail.com