Cymuned Tyfu Bwyd yng Ngogledd Cymru

Rydym yn fenter gymdeithasol, sy’n canolbwyntio ar gynhyrchu ffrwythau a llysiau wedi’u tyfu’n naturiol ar gyfer ein cymuned, ein siop fferm, busnesau lleol a rhwydweithiau bwyd yr ardal. Ein gwerthoedd craidd yw cynaladwyedd cymdeithasol ac amgylcheddol, tyfu bwyd iachys a creu lle i pobl gysylltu â Natur a gyda’i gilydd.

Diweddariadau Fferm:

  • Ymunwch â ni ar gyfer Cynhad-ŵyl (cynhadledd a gŵyl) Cynaliadwyedd cyntaf Fferm Pandy ar ddydd Gwener Mawrth 14eg. Gwelwch ein dudalen am fwy o wybodaeth.

  • Ein Diwrnod Gwirfoddoli Cymunedol nesaf yw dydd Sadwrn, Ebrill 5ed, rhwng 12pm a 4pm. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

  • Hefyd mae cyfleoedd rheolaidd i wirfoddoloi yn ailgychwyn ar ddydd Mawrth 11ed Mawrth. Pob dydd Mawrth a dydd Mercher, rhwng 10am a 2pm mae croeso cynnes i unrhyw yn ddod i roi help llaw.

  • Bydd Hamperi Cynhaeaf (bagiau llysiau) ar gael eto o ddiwedd y gwanwyn ymlaen. Ymunwch â'n grŵp WhatsApp am ddiweddariadau neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

I dderbyn diweddariadau y fferm pop tymor ymunwch â'n cylchlythr.

Gwyliwch ein fideo..

Beth sydd ar gael ar Fferm Pandy..

_DSF6464.jpg

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ffrwythau a llysiau. Mae’r holl gynnyrch yn cael ei dyfu’n naturiol, sy’n golygu nad oes unrhyw wrtaith cemegol, chwynladdwyr na phlaladdwyr yn cael eu defnyddio. Os ydych yn byw yn lleol ac yn awyddus i ymuno â'n cynllun blwch llysiau cliciwch isod i ddarganfod mwy.

Bwyd Iachus

Cyfleoedd i Wirfoddoli

Yn ystod y tymor tyfu rydym yn croesawu gwirfoddolwyr bob dydd Mawrth a dydd Mercher, rhwng 10yb a 2yp. Mae'r gwaith yn amrywiol ac yn cynnwys plannu, chwynnu a chynaeafu. Yn gyfnewid, mae gwirfoddolwyr yn cael y cyfle i gysylltu, dysgu a chymrud llwyth o lysiau blasus adref. Unwaith y mis, fel arfer ar benwythnos, rydym yn cynnal diwrnod gwirfoddoli cymunedol ar gyfer y rhai na allant ddod yn ystod yr wythnos.

Cynhad-wyl Cynaladwyedd

Ein digwyddiad mawr nesaf yn 2025 yw’r Cynhadledd Cynaladwyedd cyntaf yn Fferm Pandy. Mae hwn yn ddigwyddiad hybrid undydd sy’n cyfuno darlithoedd a gweithdai ar ffurf cynhadledd gyda dawnsio a gŵyl. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Gwener 14 Mawrth ac yn cynnwys ymgyrchwyr lleol, ffermwyr, storïwyr, cerddorion a mwy.

Cliciwch ar y botwm isod i ddarganfod mwy.

Eco-dwristiaeth

Rydym yn cydnabod harddwch naturiol Eryri ac Ynys Môn, lle mae’r cyfuniad o hanes hynafol, mynyddoedd enfawr a natur gwyllt rhyfeddol yn hollol unigryw. Mae gennym nifer o adeiladau ar gael i'w harchebu drwy Airbnb i'r rhai sydd eisiau archwilio’s ardal.

“Cyrraedd fel dieithryn, gadael fel aelod o'r teulu a ffrind. Rhoddais gynnig ar amaethyddiaeth gynaliadwy, gan ddod yn agos at y broses o fyw ar y tir, ceisio gweledigaeth am ddyfodol mwy disglair, a theimlo’n wirioneddol fod dyfodol gwell yn bosibl yma.”

— Alex, Gwirfoddolwr Workaway, 2023

Lle Rydym Ni